Cwmnïau Pierrot yng Nghymru
Rhestr o gwmnïau pierotiaid a phartïon theatraidd a berfformiai yng Nghymru rhwng 1902 a 1938
Y cyfeiriad cynharaf yr wyf fi wedi llwyddo i’w ddarganfod at gwmni pierotiaid yn perfformio yng Nghymru yw perfformiad yn Llandudno ym 1902. Yn y blynyddoedd dilynol hyd at yr Ail Ryfel Byd, rwyf hyd yn hyn wedi llwyddo i gasglu gwybodaeth am 49 o gwmnïau proffesiynol a berfformiai mewn 12 lleoliad ar draws Cymru rhwng 1902 a 1939.
Yn ddiau, roedd llawer mwy ohonynt! Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu hen luniau neu baentiadau/ysgythriadau, cysylltwch â ni trwy e-bost neu trwy ddefnyddio ffurflen yr Oriel.
Diolch yn fawr!
Ar gyfer Llandudno…
gweler y cwmnïau Pierotiaid ar dudalen Llandudno