Dr Tony Lidington (sef Uncle Tacko!)
Dr Tony Lidington yw arbenigwr arweiniol y wlad mewn adloniant glan môr Prydain a chwmnïau pierrot
Mae Dr. Lidington wedi bod yn ymchwilio’r testun am dros 3 degawd ac ef oedd yn rhedeg y cwmni pierrot glan môr, proffesiynol olaf, ‘The Pierrotters’ am 27 mlynedd o 1983-2010!
Derbyniodd ei ddoethuriaeth ar y pwnc yn 2017 ac erbyn hyn mae’n darlithio ac yn darlledu’n genedlaethol, yn ogystal ag addysgu’r gelfyddyd i ymarferwyr.
Wedi ei ysbrydoli gan yr impresario pierrot, Will Catlin, a adeiladodd ‘The Arcadia’ yn Llandudno lle mae Venue Cymru wedi’i leoli heddiw a’r caffi wedi ei enwi ar ei ôl, mae Tony wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr hanes o Brifysgol Bangor i ymchwilio i hanes y gelfyddyd parti theatraidd pierrot yn Llandudno. Casglwyd deunyddiau ac atgofion o archifau, amgueddfeydd a phobl leol – yn cynnwys disgynyddion o deulu Will Catlin.
Mae’r deunyddiau wedi dod ynghyd ar y wefan hon a byddent hefyd yn ffurfio rhan o arddangosfa deithiol o baneli, ffilmiau a memorabilia, o’r enw ‘Seaside Follies’, a fydd yn ymweld â lleoliadau lleol dros y flwyddyn nesaf.
Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau cyhoeddus ar y pwnc gan Dr Lidington ym Mhrifysgol Bangor, Cymdeithas Hanesyddol Llandudno ac yn Venue Cymru.