Home » Llandudno

Llandudno

Seaside Follies

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Promenade Promotions Limited a Venue Cymru, i ddathlu rôl Cwmnïau Pierrot a Phartïon Theatraidd yn Llandudno o 1915 i 1938.

Mae’r prosiect yn gyfle i ddysgu mwy am yr hanes a chymryd rhan a chyfrannu tuag at brofiad a gwybodaeth am y pwnc.

Ariannwyd y rhaglen waith gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Conwy. Mae’n cynnwys nifer o elfennau sy’n cyfuno i sicrhau’r cyswllt mwyaf gyda phobl leol ac ymwelwyr, yn ogystal â chreu etifeddiaeth barhaol trwy berfformiadau gan Gwmnïau Pierrot newydd, trosglwyddo gwybodaeth, gwefan ac arddangosfeydd teithiol.

Beth yw ‘Seaside Follies’?

Rydym ni’n dod â’r hanes atoch chi ac yn adfer y gelfyddyd hon drwy hyfforddi perfformwyr ifanc newydd a chyflwyno Sioeau ar 29 Medi 2018, ar Bromenâd Llandudno yn ystod diweddglo mawreddog y Seaside Follies!

Y Jollies

The Jollies on the Promenade
photo: P. Sampson

Dros haf 2018, gweithiodd 8 o bobl ifanc am wythnos ddwys gyda Dr Lidington a Malcolm Boyle (sef Uncle Tacko! a Mister Macko ‘Y New Follies’) er mwyn creu cwmni ieuenctid pierrots – ‘Y Jollies’. Perfformiodd ‘Y Jollies’ am y tro cyntaf ar lan y môr Llandudno (gyferbyn â Chaffi Catlin, Venue Cymru), ddydd Gwener 3 Awst 2018. Byddent yn perfformio gyda’r ‘New Follies’ ddydd Sadwrn 29 Medi fel rhan o ddiweddglo’r ‘Seaside Follies’ ar hyd y promenâd. Gwelwch ‘Y Jollies’ yn ymarfer

 

Y New Follies

cwmni pierrot 5 person, proffesiynol newydd

Nid oes perfformiadau gan gwmnïau pierrot proffesiynol wedi digwydd ar y promenâd yn Llandudno ers y 1940au. Mae Prom-Prom wedi creu cwmni Pierrot proffesiynol newydd, ac mae’r enw’n deyrnged i ‘Follies’ Will Catlin. Bydd ‘Y New Follies’ yn cynnwys caneuon, sgetsys ac actau (hen a newydd) a byddent yn perfformio ar lan y môr Llandudno fel rhan o benwythnos ‘Seaside Follies’ ddydd Sadwrn 29 a dydd Sul 30 Medi 2018.

Beth ddigwyddodd?

Follies-Venue-Cymru-sign-pose
Dewch i’r Sioeau!
29 a 30 Medi 2018 Diweddglo Mawreddog y Seaside Follies ar hyd Promenâd Llandudno
Cymerwch Ran!

Ein Noddwyr a’n Partneriaid

Scroll to Top