Home » Archifau

Archifau

Oriel Archifau y Seaside Follies

Mae sawl adran i’r Oriel Archif hon, a fydd yn tyfu ac yn datblygu dros amser. Croesewir unrhyw gyfraniadau, ac fe ofynnwn i chi uwchlwytho unrhyw ddelweddau neu ddeunyddiau y tybiwch eu bod yn berthnasol ac yr ydych yn barod i’w rhannu trwy ddefnyddio’r ffurflen atodedig.
Catlin-troupe-1903

Cofiwch gynnwys

  • enw’r cwmni,
  • y lleoliad,
  • y flwyddyn,
  • ac unrhyw fanylion eraill (gan gynnwys manylion cydnabyddiaeth neu hawlfraint).

Unwaith y byddwn wedi cadarnhau nad yw wedi ei ffelio yn barod, byddwn yn ei ychwanegu at y gronfa ddelweddau.

Mae’n bosib y bydd y broses hon yn cymryd peth amser i ni gan fod llawer o ddelweddau i fynd trwyddynt, felly byddem yn gwerthfawrogi eich hamynedd.

Ceir hefyd ffurflen sylwadau ac ymholiadau isod. Byddwn yn ceisio ymateb mor gyflym â phosib i’r rhain.

Gallwch hefyd anfon eich cyfraniad: info@seasidefollies.co.uk

Mae gennym eisoes gasgliad o ddelweddau a gwybodaeth am Bierotiaid ar ein gwefan www.prom-prom.com

Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon ffotograffau neu ddeunyddiau ar gyfer yr Oriel atom

    Scroll to Top