Home » Archifau » Will Catlin

Will Catlin

Will Catlin – “Brenin y Pierotiaid”

Will Catlin – y blynyddoedd cynnar

Cafodd Will Catlin ei eni fel William Henry Fox ym 1871. Roedd yn un o 13 o blant ac yn byw yng Nghaerlŷr. Dechreuodd weithio fel prentis i dorrwr teiliwr (sydd, o bosib, yn esbonio ei ddisgwyliadau uchel o ran gwisgoedd llwyfan yn ddiweddarach yn ystod ei fywyd). Ym 1890, ag yntau’n 20 oed, priododd ag Ada Elizabeth Freer yng Nghaerlŷr. Cawsant 5 merch ac 1 mab.

Roedd Will yn berfformiwr lled-broffesiynol mewn theatrau cerdd ac fel clerwr gwynebddu, ond ym 1894, penderfynodd newid ei enw llwyfan i ‘Catlin’ er mwyn creu teitl mwy bachog a chyflythrennog i’w act ddwbl newydd gyda Charlie Carson – ‘Catlin & Carson’ – yn Scarborough. Roedd yn mwynhau perfformio yno, ac fe sefydlodd ei gwmni pierotiaid cyntaf – Catlin’s Favourite Pierrots – i berfformio ar y traeth ar gyfer tymor yr haf 1894, ag yntau’n 23 oed.

Will Catlin as a young man
Will Catlin yn ŵr ifanc
Will Catlin as Minstrel
Will Catlin wedi gwisgo fel Minstrel
Roedd sawl cwmni arall yn perfformio ac yn cystadlu yn y gyrchfan wyliau ar y pryd, megis ‘Popular Pierrots’ Tom Carrick, ond profodd sioe Catlin yn eithriadol o boblogaidd. Tra’r oedd cwmni Catlin yn perfformio ar y traeth, gallai berfformio i dyrfa o 2000 yn eu seddi a chymaint â hynny eto’n gwylio! Ym 1906, er mwyn ceisio cael y llaw uchaf ar ei gystadleuwyr, prynodd yr hawliau cyfan gwbl i berfformio ar y traeth, ond daliodd y Cyngor i godi pris y rhent ar y llain hwn o dir nes iddo wrthod parhau i dalu ym 1908, gan symud y cyfan o’i weithrediad pierotiaid o dan do i adeilad pren agored o’r enw’r ‘Arcadia’ (a ailadeiladwyd yn ddiweddarach fel y ‘Futurist Theatre’) wedi’i leoli ar lan y môr.
Tom-Carrick's-Popular-Pierrots
Pierotiaid-Poblogaidd-Tom-Carrick

Wedi hynny, agorodd ‘Arcadia’ arall ychydig yn is na’r rheilffordd ym Mae Colwyn ym 1909, ac ‘Arcadia’ Llandudno (o hen lawr sglefrio iâ gwag) ym 1915.

Catlin's Arcadia in Colwyn Bay
Arcadia Catlin ym Mae Colwyn
Catlin's Arcadia, Llandudno
Arcadia Catlin, Llandudno

Yn ogystal â gwaith tymhorol dros yr haf, cynigiai Catlin sicrwydd anarferol i’w artistiaid yn ffurf cyflogaeth trwy’r flwyddyn, gan deithio trefi mewndirol yn ystod misoedd y gaeaf. Golygai hyn, er y gwaith caled, fod mynd mawr ar gytundebau gwaith â chwmni Catlin, gyda’r canlyniad o fod â gweithlu ffyddlon.

Roedd Catlin yn ddyn sioe ac yn werthwr penigamp, a byddai’n cael ei adnabod gan bawb fel ‘The Guvnor’. Roedd delwedd ei holl gwmnïau yn bwysig iddo – roedd yn rhaid i bob gwisg gael ei olchi a’i wasgu cyn bob perfformiad. Mae ei ferch hynaf yn dwyn i gof adeg pan fyddai hi a’i thair chwaer yn helpu eu tad wrth iddo eistedd, â’r naill goes wedi ei chroesi dros y llall ar fwrdd ystafell fwyta eu cartref (24 Weaponess Valley, Scarborough), yn torri ac yn gwnïo gwisgoedd ei hun tra bod y merched yn gwnïo’r pompomau a’r ryfflau arnynt.

Catlin's charabanc of pierrots
Siarabáng Catlin yn llawn pierotiaid

Roedd yn rhaid i’w bierotiaid gerdded o’u llety i’r traeth yn eu gwisgoedd a’u colur llawn yn ddyddiol, er mwyn dangos esiampl o ymddangosiad cymen ac ymddygiad da. Bob dydd Llun, byddai ei gwmni – yn eu gwisgoedd llawn – yn mynd o amgylch y dref mewn siarabáng neu dram i gyfarch newydd ddyfodiaid ac i hysbysebu eu sioeau.

Cyn 1914, dynion yn unig oedd yn aelodau o gwmnïau Catlin, a chawsant eu gwahardd rhag cael eu gweld yn gyhoeddus gyda chariad neu wraig. Byddai tri perfformiad yn ddyddiol, a phump ar Wyliau Banc. Roeddent yn ymarfer y rhan fwyaf o foreau’r wythnos ac yna’n perfformio am 11, 3 a 7, gyda 2 sioe ychwanegol ar Wyliau Banc! Roedd yn rhaid i bob aelod o’r cwmni yn ei dro fod yn gyfrifol am gasglu arian mewn potel yn ystod y sioe, a byddai disgwyl iddynt hefyd werthu nwyddau megis taflenni caneuon, rhaglenni a chardiau post wedi’r sioe.

Carolina-Moon-songsheet
Taflen i gydfynd â’r gân Carolina Moon
A-Catlin-programme-of-repertoire
A Catlin programme of repertoire
Typical-pierrot-songsheet-of-the-1930s
Typical-pierrot-songsheet-of-the-1930s
Clifford-Essex-songsheet
Clifford Essex songsheet

Roedd technegau a dull gwerthu caled Catlin yn effeithiol iawn ac yn ystod y ddegawd ddilynol, teithiodd â’i gwmnïau pierotiaid i gyrchfannau ar draws y wlad megis Withernsea, Bae Whitley, Great Yarmouth, Clacton, Bournemouth ac amryw eraill.

Catlin's troupe Withernsea 1910
Cwmni Catlin, Withernsea 1910
Catlin's Pierrots Scarborough 1903 notice the striped canvas 'tilt' coloured
Pierotiaid Catlin yn Scarborough 1903 noder y ‘tilt’ cynfas streipiog lliwiedig

Will Catlin – Gogledd Cymru

Crybwyllir cwmni Catlin yn perfformio yn Llandudno am y tro cyntaf ym 1907. Erbyn 1908 roedd Catlin yn defnyddio’r enw ‘Royal Pierrots’ i hyrwyddo ei gwmni yn dilyn perfformiadau brenhinol o flaen Tywysog Cymru ac ym 1911, derbyniodd ei bierotiaid ym Mae Colwyn orchymyn i roi perfformiad brenhinol yng Nghastell Rhuthun. Daethant yn gynyddol lwyddiannus a phoblogaidd. Yn wir, ym 1909, gwnaeth y North Wales Weekly News sylw i’r perwyl na fyddai ymweliad â Gogledd Cymru yn gyflawn heb ymweliad â Catlin’s.
Ventriloquist-in-Catlin's-Colwyn-Bay-troupe
Ventriloquist in Catlin's Colwyn Bay troupe

Ond bu effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar deyrnas Catlin yn un ddofn – rhoddwyd terfyn ar drenau pleserdeithiau, a chai mwynhad teuluoedd ar y traeth ei rwystro gan faricedau o weiren bigog. Un dydd Sadwrn ym Mehefin 1915, ymyrrwyd ar y sioe ym Mae Colwyn gan filwyr a oedd yn aros yn lleol. Gwaeddai’r milwyr am gael gwybod pam nad oedd y pierotiaid am ymuno â’r fyddin, gan daflu tyweirch o bridd a darnau o bren. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, ymgasglodd 4000 o filwyr a 3000 o ddinasyddion gan orchymyn yn flin i‘r holl ddiddanwyr pierot gofrestru yn y fyddin ar unwaith. Wedi peth trafodaeth, daeth yn amlwg mai un person yn unig o gwmni Catlin oedd yn gymwys i’r fyddin, a gorfodwyd i’r unigolyn hwnnw gofrestru – roedd pob aelod arall naill ai yn rhy hen neu yn rhy anheini!

Wedi’r digwyddiad yma, peidiodd Catlin â chynnal cynyrchiadau nes y Cadoediad ym 1918. Ym 1920, ymddeolodd o berfformio ond parhaodd i oruchwylio sioeau pierot Catlin yn Scarborough, Bae Colwyn, Yarmouth, Llandudno a nifer o leoliadau eraill.

Catlin's Pierrots, Llandudno 1920
Catlin's Pierrots, Llandudno 1920

Yn yr un modd â nifer o impresari glan môr eraill, dechreuodd ei sioeau gefnu ar wisgoedd arddullaidd y cwmnïau pierot yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd, gan gynyddol esblygu i gyfeiriad cynyrchiadau partïon theatraidd. Parhaodd y sioeau yn boblogaidd ymysg rhai o bob oedran, ac roedd slogan Catlin yn yr 1920au yn cyfateb i’r canlynol: “Canu Da, Dawnsio Da, Jôcs Da, Sioe Dda.”

Ym 1932, cyflwynodd Catlin yr ‘Evening Follies’ a ystyriwyd fel “champagne” adloniant modern. Â hwythau o hyd ar flaen y gad mewn datblygiadau adloniant, cafwyd darllediad byw o’r ‘Evening Follies’ o Arcadia Llandudno gan y BBC ar ddydd Gwener, Gorffennaf 20 1934.

Catlin-Follies-Programme
Rhaglen Follies Catlin

Ym 1940, symudodd Will Catlin o gartref ei ‘ymddeoliad’ yn Reading i fyw yn Llandudno, lle y byddai’n parhau i gyfarch ei gynulleidfaoedd o flaen theatr Arcadia mewn siwt drwsiadus a het a chyda sigâr yn ei law. Ym 1949 priododd â’i ail wraig – Doris Anderson. Cawsant ddwy ferch â’i gilydd.

Will-Catlin-seaside-pierrot-impresario
Will Catlin – impresario’r pierotiaid glan môr

Ar 15 Ionawr 1953, gadawodd Will Catlin ei gartref yn Lladudno yng nghwmni Doris i wylio ‘Catlin’s Follies’ yn ymarfer yn yr Arcadia, ond disgynnodd yn farw yn ei gar y tu allan i’r lleoliad yn 85 oed. Ef yw un o’r mwyaf dylanwadol o’r holl entrepreneuriaid pierotiaid a phartïon theatraidd, gyda’i gyfraniad i’r ffurf bwysig hon ym myd adloniant boblogaidd yr ugeinfed ganrif yn ail i neb. Y mae wedi ei gladdu ym mynwent Llandrillo (oddi ar Ffordd Dinerth). Gosodwyd het pierot o flodau gwyn ar ei arch ynghyd â cherdyn ac arno’r geiriau – “King of the Pierrots’ final curtain…”

Will-Catlin's-gravestone
Carreg fedd Will Catlin
Scroll to Top