Cyfweliadau a gynhaliwyd â rhai o’r bobl y daethom ar eu traws wrth weithio ar y ‘Seaside Follies’.
Roedd y cyfweliadau hyn yn canolbwyntio ar adloniant glan môr yn gyffredinol a rôl Will Catlin yn benodol.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran ynddynt, ac estyn croeso i unrhyw gyfraniadau pellach yn ysgrifenedig neu ar lafar at y gwaith.
Mae adran ar gyfer eich sylwadau ar waelod y dudalen hon, felly mae croeso i chi adael eich adborth neu sylwadau.

Will Catlin a’i bierotiaid
Yr hyn a ganlyn yw sgwrs a gynhaliwyd gan y Dr Tony Lidington â dwy o ddisgynyddion Will Catlin – Margot Catlin a Jane Smith – ar safle Theatr ‘Arcadia’ Will Catlin yn Venue Cymru, Llandudno ar y 5 Mehefin 2018.



John Williamson – golwg bersonol ar Will Catlin a’i sioeau glan môr yn Llandudno
Yn fachgen, aeth John i wylio sioeau Will Catlin gan weithio iddo yn yr ‘Arcadia’ yn ddiweddarach. Cynhaliwyd y cyfweliad hwn gan Samantha O’Rourke yng Ngorffennaf 2018 wrth iddo fyfyrio ynghylch y sioeau, yr awyrgylch glan môr, a chymeriad Will Catlin…

Trosolwg o ddiddanwyr glan môr a Will Catlin
Dr Tony Lidington yn trafod hanes sioeau glan môr a rôl Will Catlin wrth adeiladu ei deyrnas adloniant glan môr. Hyd: 9′ 28″.