Hyfforddiant Pierrot ar gyfer pobl ifanc a rhai proffesiynol lleol
Mae sgiliau a thechnegau perfformio’r pierrots a phartïon theatraidd wedi cael eu hesgeuluso yn y blynyddoedd diweddar. Mae’r prosiect hwn wedi ail-gyflwyno’r gelfyddyd hwyliog, aml-fedrus hon i Landudno trwy gynnig hyfforddiant i bobl ifanc a rhai proffesiynol lleol. Ym Mai 2018, cynhaliwyd cwrs hyfforddi 2 ddiwrnod yn Venue Cymru gan Dr Lidington, lle cafodd grŵp o ymarferwyr creadigol lleol gipolwg ar hanes y pierrots a dysgu rhai technegau a sgiliau y gallent eu defnyddio ar gyfer eu harfer eu hunain a gydag ystod o grwpiau cymunedol lleol y maent yn gyfrifol amdanynt.

‘Y New Follies’ – cwmni pierrot 5 person, proffesiynol, newydd
Nid oes perfformiadau gan gwmnïau pierrot proffesiynol wedi digwydd ar y promenâd yn Llandudno ers y 1940au.
Mae Prom-Prom wedi creu cwmni pierrot proffesiynol newydd, ac mae’r enw’n deyrnged i ‘Follies’ Will Catlin.
‘Y New Follies’ yw Uncle Tacko! Mister Macko, Zampanella (y llais rhyfeddol), Bunny Tranter, Dafydd Shalders.


‘Y Jollies’
Dros haf 2018, gweithiodd 8 o bobl ifanc am wythnos ddwys gyda Dr Lidington a Malcolm Boyle (sef Uncle Tacko! a Mister Macko ‘Y New Follies’) er mwyn creu cwmni ieuenctid pierrots – ‘Y Jollies’. Perfformiodd ‘Y Jollies’ am y tro cyntaf ar lan y môr Llandudno (gyferbyn â Chaffi Catlin, Venue Cymru), ddydd Gwener 3 Awst 2018. Byddent yn perfformio gyda’r ‘New Follies’ ddydd Sadwrn 29 Medi fel rhan o ddiweddglo’r ‘Seaside Follies’ ar hyd y promenâd. Dysgwch fwy yma…
